Prif amcanion Cymdeithas Wici Cymru ydy:
- hybu, hyrwyddo a chefnogi’r Wicipedia Cymraeg a’r Wikipedia Saesneg yng Nghymru.
- hyrwyddo’r cysyniad o ledaenu holl wybodaeth y byd i bawb, am ddim drwy hyrwyddo’r defnydd o ‘gynnwys agored’ neu rhyddhau gwybodaeth addysgol (testun, delweddau, fideo ayb) ar drwydded CC-BY-SA neu ei debyg
- ffurfio perthynas ag unigolion, sefydliadau a chymdeithasau cyffelyb yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill.
- addysgu a meithrin golygyddion newydd a chynnig hyfforddiant sut i hyfforddi eraill
Dewch i ddysgu mwy am ein prosiectau a’r digwyddiadau rydym am yn eu trefnu.