Archifau Misol: Ionawr 2014

Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr, Caerdydd. 1-2/2/2014

Mae Wikimedia UK yn cynnig cwrs hyfforddiant deuddydd o’r enw Hyfforddi’r Hyfforddwyr yng Nghaerdydd ar benwythnos y 1af a’r 2il o Chwefror yng Nghaerdydd. Cwrs cyffredinol ar fod yn hyfforddwr ydyw, ac nid ar sut i olygu’r Wicipedia. Darperir yr hyfforddiant drwy gyfrwng y Saesneg, ond rhoddir blaenoriaeth i siaradwyr Cymraeg er mwyn gallu cynorthwyo gyda proseictau Wicipedia/Wikimedia yng Nghymru.

Ni chodir tâl am y cwrs ac hefyd mae posib i Wikimedia UK gyfrannu tuag at gostau teithio/llety os oes angen. I geisio am le, ychwanegwch eich enw ar waelod tudalen Saesneg y digwyddiad ar wici Wikimedia UK a disgrifad byr o’ch profiad hyd yma ar Wicipedia/hyfforddi (ddim yn angenrheidiol o flaen llaw) a’r hyn yr ydych yn fwriadu ei wneud unwaith i chi dderbyn hyfforddiant.

SWYDD: Cydlynydd Hyfforddi (Cymru)

Prosiect Llwybrau Byw!

Cydlynydd Hyfforddi (Cymru)
Hysbyseb Swydd Cydlynydd Hyfforddi (Cymru)

Yn atebol i: Robin Owain, Rheolwr Cymru
Cytundeb: 6 mis (gan ddechrau ar 1 Chwefror 2014)
Cyflog: £11,200 (am 3 diwrnod yr wythnos; 8 awr y diwrnod).
Gwyliau: 5 diwrnod a Gwyliau Cyhoeddus.

Mae Wici Cymru a Wikimedia UK yn chwilio am Gydlynydd Hyfforddiant yng Nghymru i ddatblygu Wicipedia Cymraeg a’r Wikipedia Saesneg yng Nghymru drwy ysbrydoli a hyfforddi golygyddion newydd fel rhan o’n prosiect Llwybrau Byw!

Dylai’r Cydlynydd fod a phrofiad o olygu prosiectau Wikimedia (yn Gymraeg a Saesneg) a chefnogi gwirfoddolwyr ac hyfforddi ar lefel proffesiynol. Bydd y gwaith yn ymwneud â threfnu hyfforddiant yn ogystal a hyfforddi darpar olygyddion ledled Cymru. Mae’r gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl yn hanfodol.

Mae’r swydd am gyfnod o chwe mis a bydd yr ymgeisydd llwydiannus yn cael ei secondio i Wici Cymru a fydd yn goruchwylio’r gwaith, ar y cyd gyda Wikimedia UK, y coflogwr, a Llywodraeth Cymru fel partner ariannol yn y Prosiect.

Mae’r swydd yn amodol i dderbyn cytundebau a chanllawiau Wikimedia UK.

Ceir rhagor o fanylion ynghyd â Ffurflen Gais ar gael oddi wrth: Jon Davies, Prif Weithredwr WMUK – jon.davies@wikimedia.org.uk ac ar http://www.wikimedia.org.uk

Dyddiad cau: 22nd Ionawr 2014 am 10 a.m.

Cynhelir y cyfweliadau yn Wrecsam ar yr 28ain o Ionawr ac mae’n ofynol i’r ymgeiswyr fod ar gael ar y diwrnod hwn.

Croesawir bob cais. Ni ellir derbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad cau.