Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n pedodi Wicipediwr Preswyl

Newyddion da ar flog y llyfrgell:

Heddiw, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu penblwydd Wikipedia yn bedair-ar-ddeg trwy gyhoeddi bod Wicipediwr Preswyl wedi ei benodi mewn partneriaeth â Wikimedia UK. Bydd y swydd yn para blwyddyn ac yn ceisio sefydlu perthynas gynaladwy rhwng y Llyfrgell a Wikipedia.

Bydd y Wicipediwr yn edrych ar ddulliau newydd o ymgysylltu â defnyddwyr ac yn cynnal gweithgareddau fel ‘golygathonau’ er mwyn cynorthwyo staff a defnyddwyr y Llyfrgell i gyfrannu at Wikipedia.

Bydd hefyd yn cydweithio yn agos â staff y Llyfrgell i adnabod deunydd o gasgliadau’r Llyfrgell a fyddai’n addas i’w gyfrannu at y fersiynau Cymraeg a Saesneg o Wikipedia er mwyn codi ymwybyddiaeth o Gymru a’i phobl.

Mae Jason Evans wedi ei benodi i’r swydd a bydd yn dechrau ar ei waith ar 19 Ionawr.

Llongyfarchiadau i Jason ac edrychwn ymlaen at gydweithio. Mae Jason wedi creu cyfrif Twitter @WIKI_LLGC ar gyfer ei swydd, ble gobeithio bydd yn rhannu ei waith gyda ni.

Gadewch sylw

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s