Rydym am ymuno efo BioFlits gyda Chymdeithas Edward Llwyd ar 14 Mehefin, 2013 ym Marc Dudley, Waunfawr ger Caernarfon. Byddwn yn tynnu lluniau o’r gwyfynod – a rhywogaethau eraill – ac yn eu huwchlwytho i Comin Wikimedia a’u hychwanegu at erthyglau perthnasol. Rhydd hyn gyfle euraidd i glensio’r bartneriaeth sydd eisioes rhwng y ddwy gymdeithas mewn modd ymarferol ac i hyfforddi aelodau CELl ar sgiliau Wici. Mae nhw’n darparu lluniaeth, ond awgrymir eich bod yn dod a choffi poeth a ballu efo chi!
Cwrdd ym Mharc Dudley 19:30 nes 00:00 (Plis nodwch fod croeso i bobl fynd a dod fel y dymunent). Nid oes angen archebu lle ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn.
Mae modd cael lifft o ardal Rhuthun gan gychwyn am 5.00 y pnawn a gorffen tua 12.00 yr hwyr (Cysylltwch gyda Llywelyn2000).